Cyflwyniad i Archifau

Mae archifau yn gofnodion gwerthfawr sy’n adrodd stori ein gorffennol. Mae gwasanaethau archif yng Nghymru yn diogelu ac yn amddiffyn ein cof cyfunol, ac yn ein helpu i ddathlu ein hunaniaeth ddiwylliannol. Y rhain yw’r ffeithiau, y dystiolaeth a’r mewnwelediadau a ddefnyddiwn i ddarganfod, dehongli a deall hanes.

  1. Rydym i gyd yn creu cofnodion yn ein bywydau bob dydd.  Mae rhai cofnodion yn arbennig o bwysig i ni, ac rydym yn eu cadw cyn hired ag sydd eu hangen; fe benderfynwn gadw rhai am byth, a dyma yw ein harchifau. Mae sefydliadau, cyrff a busnesau o bob math yn creu cofnodion yn yr un […]

  2. Ymweld â Gwasanaeth Archifau Bydd gwasanaethau archifau yn rhestru’r rhan fwyaf o archifau mewn catalogau ar-lein, neu restrau eraill o’r enw llawrestrau neu gymhorthion canfod. Mae’r rhain yn aml yn rhoi gwybodaeth am gefndir yr archif – pwy greodd yr archif a pham – ac yn disgrifio beth fydd ynddi. Bydd gan bob eitem mewn […]

  3. Mae llawer o’r cofnodion sy’n cael eu cadw gan wasanaethau archifau wedi’u cyfrannu neu’u hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Gallant ddod ar lawer o fformatau gwahanol, er enghraifft mewn llawysgrifen ar bapur, cofnodion digidol, ffotograffau neu ffeiliau sain. Bydd gan bob gwasanaeth archifau Bolisi Gwybodaeth Casgliadau sy’n rhoi manylion y mathau o […]

  4. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith rydym ni’n ei wneud. P’un a ydych chi’n teimlo’n angerddol am hanes, eisiau gwella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau, neu’n syml eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth gwerth chweil, mae gwirfoddoli yn eich gwasanaeth archifau yn ffordd wych o gymryd rhan a gwneud ffrindiau newydd. Gallwch fod o unrhyw […]