Mae cydweithio wedi bod yn brif nodwedd gwaith Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, i ddatblygu prosiectau cynaliadwy ac effeithlon na all gwasanaethau unigol ddarparu. Yn y blynyddoedd diwethaf mae prosiectau wedi canolbwyntio ar sicrhau bod hanes diwydiant Cymru yn cael ei adnabod a hyrwyddo.